
I weld yr hysbyseb Saesneg,
cliciwch ymaFor the English language advert please
click here
LLEOLIAD CYNHYRCHU Y TELIR AMDANO * HYFFORDDIANT O’R RADD FLAENAF * GWYBODAETH AM GOMISIYNU * MENTORIAID BLAENLLAW YN Y DIWYDIANT
Mae’r Cynllun Carlam Ffeithiol yn rhaglen ddatblygu flaengar a’i nod yw cyflymu gyrfaoedd cynhyrchwyr ffeithiol mwyaf talentog a chreadigol Cymru.
Mae’r Cynllun Carlam yn creu enillwyr busnes i Gymru drwy godi proffiliau, gwella sgiliau a chynyddu profiad, ac ehangu rhwydweithiau cynhyrchwyr, cynhyrchwyr/cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr cyfres, uwch gynhyrchwyr a chynhyrchwyr datblygu gorau’r wlad. Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer carfan nesaf y Cynllun Carlam i feithrin hyder a sicrhau bod cynhyrchu ffeithiol yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth.
Mae croeso i bawb sydd â’r profiad perthnasol wneud cais. Ein huchelgais yw creu carfan fwy amrywiol ar gyfer Cynllun Carlam 3. Rydyn ni eisiau gwella cynrychiolaeth amrywiaeth ethnig, anabledd a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol, ac rydyn ni wedi ehangu’r ystod o brofiadau sydd eu hangen i wneud cais am y cynllun. Er nad yw’r gallu i siarad Cymraeg yn orfodol, bydd dau le yn cael eu neilltuo i siaradwyr Cymraeg rhugl sydd â sgiliau cyfathrebu gwych yn y Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i weithio’n ddwyieithog.Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa o hyfforddiant o’r radd flaenaf yn y diwydiant, lleoliadau cynhyrchu y telir amdanynt, mentoriaid comisiynu a chynhyrchu, gwybodaeth am gomisiynu, cefnogaeth unigol, a bod yn rhan o garfan ddeinamig a chefnogol.
Pwrpas y Cynllun Carlam Ffeithiol yw meithrin hyder a chodi proffil talentau cynhyrchu ffeithiol Cymru. I wneud cais, rhaid i chi fod yn gweithio yn y sector ‘heb ei sgriptio’ yng Nghymru neu’n gallu darparu tystiolaeth o’ch ymrwymiad i weithio yma:
- Bydd gennych chi brofiad amlwg a byddwch wedi gweithio ym maes darlledu fel cynhyrchydd, cynhyrchydd/cyfarwyddwr, cynhyrchydd cyfres, uwch gynhyrchydd neu gynhyrchydd datblygu.
- Mae’n rhaid bod gan bob ymgeisydd brofiad mewn un neu ragor o'r genres canlynol: ffeithiol, rhaglenni dogfen, ffeithiol arbenigol, adloniant ffeithiol neu ddatblygu.
- Bydd gennych hyder golygyddol a chreadigol, a byddwch chi’n barod i wthio ffiniau a chymryd risgiau i herio rhagdybiaethau.
- Byddwch yn arloesol a bydd gennych syniadau gwreiddiol sydd wedi bod yn allweddol i greu rhaglenni mae cynulleidfaoedd a darlledwyr wrth eu bodd â nhw.
- Byddwch yn frwd dros ac wedi cael profiad o greu neu weithio mewn timau cynhyrchu gydag amrywiaeth eang o leisiau a chefndiroedd.
- Mae gennych chi’r profiad neu’r potensial i fod yn arweinydd strategol gyda’r sgiliau a’r gwytnwch i arwain timau creadigol a chydweithredol.
Os hoffech glywed mwy am y Cynllun Carlam Ffeithiol, e-bostiwch hannah@hannahcorneck.com i gofrestru ar gyfer digwyddiad byw ar-lein ar ddydd Gwener
11 Tachwedd am 1330 a fydd yn trafod cynnwys y cynllun ac yn cynnig awgrymiadau ar sut i lenwi’r ffurflen gais. Nodwch ‘FFT Q&A’ yn llinell bwnc yr e-bost.